Ychwanegwch uwchlwytho delweddau i'ch bwrdd neges, blog neu wefan
Y ffordd hawsaf o atodi delweddau i gofnodion
Mae ategyn Postimages yn ychwanegu teclyn i lwytho delweddau i fyny ac i'w hatodi at gofnodion yn gyflym. Caiff pob delwedd ei llwytho i fyny i'n gweinyddion, felly nid oes angen poeni am le ar ddisg, biliau lled band, nac am gyfluniad gweinydd gwe. Mae ein hategyn yn ateb perffaith i fforymau gydag ymwelwyr nad ydynt yn hyderus yn dechnegol ac sy'n cael anhawster llwytho delweddau i fyny i'r Rhyngrwyd neu nad ydynt yn gwybod sut i ddefnyddio BBCode [img].
Noder: Ni chaiff eich delweddau eu tynnu byth am anweithgarwch.
Dewiswch eich meddalwedd bwrdd negeseuon (mae mwy o beiriannau fforymau a gwefannau ar ddod yn fuan)
Sut mae'n gweithio
- Wrth ddechrau pwnc newydd neu bostio ymateb, byddwch yn gweld dolen "Add image to post" islaw'r ardal destun.

- Cliciwch y ddolen honno. Bydd naid-fenestr yn ymddangos a fydd yn eich galluogi i ddewis un neu fwy o ddelweddau o'ch cyfrifiadur. Cliciwch y botwm "Choose files" i agor y dewiswr ffeiliau.

- Cyn gynted ag y byddwch yn cau'r dewiswr ffeiliau, bydd y delweddau a ddewiswyd yn cael eu huwchlwytho i'n safle, a bydd y BBCode priodol yn cael ei fewnosod yn awtomatig yn eich postiad.

- Cliciwch "Submit" pan fyddwch wedi gorffen golygu'r cofnod. Bydd lluniau bach o'ch delweddau yn ymddangos yn y cofnod, ac fe fyddant hefyd yn cysylltu â'r fersiynau mwy o'ch delweddau sy'n cael eu gwesteio ar ein gwefan.










